Ezekiel 21

Babilon – Cleddyf Duw

1Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 2“Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu Jerwsalem, a pregethu yn erbyn ei lleoedd cysegredig hi. Proffwyda yn erbyn Israel, 3a dweud, ‘Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda chi! Dw i'n mynd i dynnu fy nghleddyf o'r wain a lladd pawb, y da a'r drwg! 4Ydw, dw i'n mynd i ladd y da a'r drwg. Bydda i'n tynnu fy nghleddyf ac yn taro pawb, o'r de i'r gogledd! 5Bydd pawb yn deall wedyn mai fi ydy'r Arglwydd, ac mai fi sydd wedi tynnu'r cleddyf, a fydd e ddim yn mynd yn ôl i'r wain!’

6“Felly griddfan di, ddyn! Griddfan yn chwerw o'u blaenau a syrthio ar lawr yn dy ddyblau fel petaet ti mewn poen. 7Pan fyddan nhw'n gofyn i ti, ‘Beth sy'n bod?’ dywed wrthyn nhw, ‘Mae newyddion dychrynllyd ar ei ffordd. Bydd pawb wedi dychryn am eu bywydau, a ddim yn gwybod beth i'w wneud. Byddan nhw'n teimlo'n gwbl ddiymadferth, ac yn gwlychu eu hunain mewn ofn.’”

8Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 9“Ddyn, proffwyda fel yma, ‘Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

Cleddyf! Cleddyf!
Wedi ei hogi a'i sgleinio.
10Wedi ei hogi i ladd,
ac yn fflachio fel mellten.
Pwy sy'n chwerthin nawr?
Mae teyrnwialen Jwda wedi ei gwrthod
a phob ffon debyg iddi!
11Mae'r cleddyf wedi ei rhoi i'w sgleinio
a'i dal yng nghledr y llaw.
Mae wedi ei hogi a'i glanhau
i'w rhoi yn llaw y lladdwr.
12Gwaedda, ddyn, galara!
Mae'r cleddyf i daro fy mhobl,
ac arweinwyr Israel i gyd!
Bydd y galar yn llethol!
13Ydy, mae'r profi'n dod!
Pa obaith sydd
pan mae teyrnwialen Jwda wedi ei gwrthod?’
meddai'r Arglwydd.
14Dw i eisiau i ti broffwydo, ddyn,
ac ysgwyd dy ddwrn
21:14 ysgwyd dy ddwrn Hebraeg, “curo dy ddwylo”, oedd yn arwydd eich bod wedi gwylltio.
arnyn nhw. Dywed,
‘Bydd y cleddyf yn taro
ddwywaith … na, tair!
Cleddyf i ladd!
Bydd cleddyf y lladdfa fawr
yn closio o bob cyfeiriad!
15Bydd pawb yn wan gan ddychryn
a nifer fawr yn baglu a syrthio.
Mae cleddyf y lladdfa fawr
yn disgwyl wrth y giatiau i gyd.
O! Mae'n fflachio fel mellten
wrth gael ei chwifio i ladd!
16Ergyd i'r dde, a slaes i'r chwith!
Mae'n taro â'i min ble bynnag y myn.
17Byddaf finnau'n ysgwyd fy nwrn
21:17 ysgwyd fy nwrn Hebraeg, “curo fy nwylo”, oedd yn arwydd eich bod wedi gwylltio.

a dangos faint dw i wedi gwylltio.
Yr Arglwydd ydw i,
a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.’”

Cleddyf brenin Babilon

18Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 19“Ddyn, dw i eisiau i ti wneud map a marcio dwy ffordd y gallai cleddyf brenin Babilon ddod. Mae'r ddwy ffordd i ddechrau o'r un lle. Yna ble maen nhw'n fforchio dw i eisiau i ti godi arwydd ffordd yn pwyntio at y ddinas – 20Marcia ddwy ffordd i'r cleddyf fynd – un i Rabba, dinas pobl Ammon, a'r llall i Jerwsalem, y gaer yn Jwda. 21Mae brenin Babilon
21:21 brenin Babilon Nebwchadnesar
wedi stopio ble mae'r ffordd yn fforchio, ac yn ansicr pa ffordd i fynd. Mae'n aros i ddewino: mae'n ysgwyd saethau, yn ceisio arweiniad ei eilun-ddelwau teuluol, ac yn archwilio iau anifeiliaid wedi eu haberthu.
22Mae'n agor ei law dde, a dyna'r arweiniad – i droi am Jerwsalem. Rhaid paratoi hyrddod rhyfel i fwrw'r giatiau, bloeddio'r gorchymyn i ymosod, a chodi rampiau a thyrau gwarchae. 23Bydd pobl Jerwsalem yn meddwl ei fod wedi gwneud camgymeriad, am eu bod wedi gwneud cytundeb gyda Babilon. Ond mae'n dangos eu bod nhw'n euog, a byddan nhw'n cael eu cymryd yn gaeth.

24“Felly, dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi ei gwneud hi'n gwbl amlwg eich bod chi'n euog. Dych chi wedi troseddu, a does gynnoch chi ddim cywilydd o'ch pechod. Mae pawb yn ei weld! Felly byddwch yn cael eich cymryd yn gaeth.

25“‘A tithau, Sedeceia, dywysog llwgr a drwg Israel – mae dy ddiwrnod wedi dod. Ie, dydd barn! 26Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Tynna dy goron oddi ar dy ben! Mae pethau'n mynd i newid! Codi'r rhai sy'n ‛neb‛, a thorri crib y balch! 27Adfeilion! Adfeilion! Bydd y lle'n adfeilion llwyr! Fydd dim yn newid nes i'r un dw i wedi rhoi iddo'r hawl i farnu ddod. Bydda i'n ei rhoi iddo fe.’”

Taro pobl Ammon

28“Ond yna, ddyn, proffwyda fel yma, ‘Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud am gosb pobl Ammon:

Cleddyf! Cleddyf,
yn cael ei chwifio i ladd.
Wedi ei sgleinio i ddifa,
ac yn fflachio fel mellten.

29“‘Mae gweledigaethau dy broffwydi'n ffug, a'r arweiniad trwy ddewino yn gelwydd! Mae'r cleddyf ar yddfau pobl lwgr a drwg. Ydy, mae eich diwrnod wedi dod. Ie, dydd barn!

30“‘Fydd y cleddyf ddim yn ôl yn ei wain nes i mi eich barnu chi yn y wlad lle cawsoch eich geni. 31Dw i'n mynd i dywallt fy llid arnoch chi, a'ch ffrwydro gyda tân fy ffyrnigrwydd. Bydda i'n eich rhoi chi yn nwylo dynion gwyllt sy'n gwybod sut i ddinistrio. 32Byddwch yn danwydd i'r tân. Bydd eich gwaed wedi ei dywallt ar y tir. Fydd neb yn eich cofio. Yr Arglwydd ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!’”

Copyright information for CYM